CELG(4) WPL 06

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru

Ymateb gan Gareth Jones

 

Annwyl gyfeillion,

Yn gyntaf hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am ddangos diddordeb yn Uwch Gynghrair Cymru. Fel Cadeirydd neu Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Caerfyrddin dyma’r tro cyntaf i’r sefyllfa yma godi.

Er mwyn hwyluso’r drafodaeth fe ddilynaf y fformat a osodwyd allan yn eich e-bost gwreiddiol:

Safonau Pêl-droed

Fel rhywun sydd â chefndir amrywiol o fewn y byd pêl-droed credaf fod yr Uwch Gynghrair wedi bod yn sbardun i welliannau mewn safonau. Erbyn heddiw mae’n cael ei chydnabod fel cynghrair o safon yn enwedig tua brig y gynghrair. Gwelir y clybiau yn cael eu cyfle mewn cystadlaethau Ewropeaidd, rhai yn fwy llwyddiannus na’i gilydd.

Erbyn heddiw mae safon y chwaraewr wedi newid er gwell. Yn y gorffennol gwelwyd criw cymharol fechan o chwaraewyr da yn symud o glwb i glwb, yn ddibynnol ar yr arian a gynigiwyd. Erbyn hyn mae cyfle i ddatblygu tu fewn eich clwb ac i gyrraedd safon uchel iawn. Mae’n ffenest siop dda iawn i’r chwaraewyr eithriadol.

Fformat y Gynghrair

Fel clwb roedd gan Gaerfyrddin amheuon am dorri’r gynghrair i ddeuddeg clwb yn unig. Ataliwyd ein pleidlais yn y cyfarfod allweddol ond gan fod pleidlais euraidd gan y Gymdeithas Bêl-droed (CBD Cymru) roeddwn yn gwybod beth fyddai’r canlyniad!

Ar ôl dau dymor y teimlad cyffredinol ymysg ein cefnogwyr (ar ôl ymchwil manwl) yw bod angen mwy o dimau. Maent yn gweld yr un clybiau pedair o weithiau yn ddiflas. Y farn gyffredinol yw mai un ar bymtheg yw’r rhif delfrydol gyda Chwpan y Gynghrair safonol.

Fel clwb rydyn wedi gwrthwynebu’r syniad o bêl-droed yn yr haf. Gwirfoddolwyr sydd yn rhedeg CPD Caerfyrddin ac fel arfer mae’n anoddach cael stiwardiaid ayyb adeg mis Awst. Yn bersonol, fel athro, ni fyddai unrhyw obaith cael amser am wyliau a phêl-droed!

Yn ymarferol nodwyd rhesymau eraill am beidio chwarae yn yr haf. Yn draddodiadol mae ein torfeydd llawer yn is ym mis Awst. Mae’r traffig yn broblem wrth deithio ar benwythnosau’r haf. Mae’r caeau yn galed gan wneud hi’n anoddach i chwarae pêl-droed deniadol.

Ein teimlad yw bod lle i fwy o gemau canol wythnos yn enwedig yn ystod misoedd Medi a Hydref. Beth sydd yn bod ar lansio’r gynghrair ar Benwythnos y Banc ar ddiwedd mis Awst? Gem nos Wener, prynhawn Sadwrn ac ar Ddydd Llun a rhain yn gemau lleol er mwyn torri lawr ar y problemau teithio.

Mae’r toriad yn ystod Ionawr yn syniad da iawn. Wedyn gallwn gael gemau ar Ŵyl Banc Y Pasg. Mae Llun y Pasg yn ddiwrnod traddodiadol am bêl-droed yng Ngorllewin Cymru.

Hoffwn weld fwy o gefnogaeth i’r timau sydd yn cyrraedd cystadlaethau Ewropeaidd. Mae gan CBD Cymru arbenigedd a allai fod o werth mawr i’r clybiau e.e. dietegydd. Hefyd gallent sicrhau gemau cystadleuol i’r timau cyn iddynt chwarae. Penwythnos neu fwy yng Nghaerdydd/canolfan arbennig ar gyfer paratoi yn fanwl efallai

Datblygiad a Chynnydd Chwaraewyr/Hyfforddwyr

Mae’r Uwch Gynghrair wedi hybu gwelliant mewn chwaraewyr a hyfforddwyr. Mae gwaith ein hacademïau yn werthfawr iawn (dau o’n dîm ieuenctid yng ngharfan y tîm cyntaf ers y ‘Dolig). Drwy osod safon ar gymwysterau'r hyfforddwyr mae’r trwyddedu Domestig ac UEFA wedi gorfodi'r clybiau i gael hyfforddwyr safonol. Beth sydd angen nawr yw’r gefnogaeth i gynnal ac i hyrwyddo gwaith yr academïau.

Teimlwn fod angen edrych ar yr effaith mae'r trwyddedau yn cael ar safon yr hyfforddwyr y timau sydd yn yr Uwch Gynghrair. Maent yn rhy uchel ar hyn o bryd? Mae’r gost o hyfforddi hyfforddwr yn anodd iawn i glwb i’w gynnal. Mae’r nifer o hyfforddwyr sydd â’r cymhwyster angenrheidiol yn fach ac felly maent yn bethau prin ( eu cost i glwb!). Felly awgrymwn fod y swyddogion yn edrych ar hyn.

Mae safon yr hyfforddwyr wedi gwella ond mae angen mwy o gyfleoedd ar eraill i gael yr un cymhwyster. Mae’r gost o ddilyn cwrs hyfforddi ( ‘A’ dros £3000, ‘Pro’ dros £8000) allan o gyrraedd unigolion. Awgrymwn fod cytundeb yn cael ei lunio rhwng CBD Cymru a’r hyfforddwyr. Byddai’r hyfforddwyr yn derbyn grant am ddilyn y cwrs ac yn gorfod talu’r grant yn ôl os ydynt yn gadael y clwb maent yn gysylltiedig cyn cyfnod penodol o amser. Tan fod hyn yn digwydd bydd safon yr hyfforddi yn aros yn ei unfan. Mae angen gwaed newydd parhaol er mwyn i’r gynghrair ffynnu.

Teimlwn hefyd bod angen gwneud gwell defnydd o’r hyfforddwyr profiadol gyda’r cymwysterau uchaf. Ar hyn o bryd maent yn gweithio i un clwb yn unig. Beth am ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau a’u danfon i glybiau cynghrair yn is er mwyn rhannu’r profiadau? Gall hyn fod yn rhan o’r datblygiad proffesiynol parhaus.

Ceir llawer mwy o gyfleoedd i chwaraewyr ifainc. Ceir timau cynrychioladol ar bob lefel ac maent yn dal eu tir erbyn timau cynrychioladol o wledydd eraill. Mae’r system academy n gweithio ond mae yna glybiau yn y system Academi sydd ddim yn cyfrannu’n llawn i’r gweithgareddau ac yn creu sgil effeithiau.

 

 

Cyfraniad Allanol

Er bod y clybiau yn yr Uwch Gynghrair yn canolbwyntio ar y prif dîm mae eu cyfraniad i bêl-droed yn lleol yn bwysig iawn hefyd.

Un trueni yw nad yw chwaraewyr bellach yn medru arwyddo i chwarae i ddau glwb. Nid yw’n bosib i glwb fel Caerfyrddin gynnal carfan fawr o chwaraewyr. Yn y gorffennol roeddwn yn cydweithio gyda chlybiau eraill i gadw chwaraewyr yn ffit ac i ddatblygu chwaraewyr ifainc sydd yn rhy hen i’r timau Ieuenctid.

Fel clwb rydym yn trefnu gŵyl bêl-droed i ysgolion cynradd yn ystod tymor yr haf. Mae'r rhain yn dimau cymysg o reidrwydd yng nghefn gwlad. Byddwn yn cydweithio gyda’r ysgolion cynradd a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau cyfoes ein cymdeithas. Sicrhawn hefyd ein bod yn cydymffurfio â deddfau cyfle cyfartal. Diolch fan hyn i’r trwyddedu.

Safle'r Uwch Gynghrair mewn chwaraeon yng Nghymru a thu fewn i’r cyfryngau

Dibynna hyn ar agwedd bersonol. Credaf yn bersonol nad oes digon o gefnogaeth i’r Uwch Gynghrair tu fewn i goridorau CPD Cymru. Ceir cefnogaeth gadarnhaol gan rai aelodau, nid oddi wrth bawb. Tan fod yna berthynas gadarnhaol bydd y Gynghrair yn dioddef.

Teimlwn yn rhwystredig ar adegau pan bod penderfyniadau yn cael eu gwneud heb ymgynghori e.e. pwy sydd yn cael chwarae yng Nghwpan Cymru.

Mae’r gynghrair yn cael ei beirniadu yn y wasg. Diffyg tîm yn y de-ddwyrain sy’n gyfrifol am hyn yn bennaf a diffyg mentro gan y wasg i’r gorllewin. Pa mor bwysig yw papurau dyddiol i bobl ifainc erbyn hyn?

Efalle bod y BBC wedi pwdu wrth iddynt golli'r contract i ddarlledu gemau Cymru! Nid yw’r clybiau yn hysbys o beth sydd yn digwydd. Yr un sefyllfa gyda’r Western Mail?

Rhaid canmol Cwmni Rondo i’r cymylau. Mae ei darllediad o gêm fyw ar brynhawn Sadwrn yn neilltuol. Mae’r rhaglen Sgorio wedi bod yn rhan o ddiwylliant cefnogwyr pêl droed yng Nghymru cyn sefydlu Uwch Gynghrair Cymru. Mae gweld gemau Caerfyrddin ar yr un rhaglen a Barcelona a’u tebyg yn hwb i’r galon. Trueni nad oes gwerth ariannol i’r clybiau tu fewn i’r Uwch Gynghrair wrth i’w hadnoddau cael eu defnyddio ar gyfer darlledu'r gemau byw.

Collwyd cyfle pan ddaeth cyfnod noddi'r Principality i ben. Cwmni Cymreig gyda chynnyrch Cymreig. Tybed  a oedd digon o waith wedi ei wneud er mwyn sicrhau ymestyn y contract yma? Dyma’ r lle i holi beth yw rôl Swyddog Marchnata CBD Cymru. Ni does neb wedi ei weld yng Nghaerfyrddin erioed i rannu ei sgiliau!

Rhaid holi hefyd pam bod angen tynnu arbenigwr i mewn, gan ddefnyddio arian grant, ar gyfer prosiect ‘Grow Your Club’. Roedd ein cyfarfod diwethaf yn debyg iawn i wers fusnes TGAU neu AS! Tybed a oedd modd cael grant ar wella cyfleusterau darlledu?

Y Clybiau

Nid wyf mewn sefyllfa i wneud sylw ar glybiau eraill.

Yng Nghaerfyrddin mae’r clwb yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Mae clwb yn rhedeg timau dan 12, dan 14, dan 16, dan 19, yr ail dîm (yng Nghynghrair Sir Gaerfyrddin) a’r tîm yn Uwch Gynghrair Cymru. Yn ogystal rydym yn cynnal sesiynau datblygu ar gyfer disgyblion oedran ysgol gynradd.

Mae’r clwb yn rhan allweddol o’r gymuned. Ar hyn o bryd rydym wedi creu Partneriaeth gydag Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Chlwb Rygbi Cwins Caerfyrddin a Chyngor Sir Gaerfyrddin er mwyn ymchwilio am arian i wella cyfleusterau hamdden yn y dref. Prosiect uchelgeisiol iawn.

Defnyddir ein clwb fel Canolfan Gymunedol gyda dros ugain o gymdeithasau gwahanol yn ei ddefnyddio ar adegau gwahanol. Ceir clybiau Celf, clwb cyfrifiadurol, dosbarthiadau colli pwysau, digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer codi arian i ysgolion lleol gan gymdeithasau rieni ac ar gyfer elusennau. Mae’r clwb yn fabwysiadau un elusen leol yn flynyddol (yr hosbis leol sydd yn cael ein cyfraniad eleni)

Mae ein perthynas gyda busnesau’r dref yn un gadarnhaol iawn. Heb ei chefnogaeth ni fyddai Caerfyrddin yn aelod o Uwch Gynghrair Cymru.  Mae’n waith llafurus i gynnal hyn drwy waith gwirfoddolwyr.

Rydym yn ffodus iawn o’n hadnoddau. Eisteddle sydd yn dal dros 1,000, meysydd parcio bob ochr i’r maes a’r gobaith o ystafelloedd newid ar y ffordd diolch i garedigrwydd CBD Cymru. Mae les am dros naw deg o flynyddoedd gan y clwb ar Barc Waun Dew. Yn anffodus roedd y Rhufeiniaid wedi ymgartrefu yno ac mae unrhyw ddatblygiad y dyddiau yma yn sicrhau ymweliad gan CADW.

Mae angen gwaith ar wella safon y maes. Eto gwirfoddolwr sydd wrthi ond heb yr adnoddau dynol a mecanyddol perthnasol nid yw’r maes chwarae yn mynd i wella yn y dyfodol agos heblaw bod yna fuddsoddiad gan yr awdurdodau perthnasol.

Gwelliannau yn safon y meysydd chwarae sydd yn mynd i gyfrannu yn bennaf at safon y gemau a chodi proffil y gynghrair. Ar hyn o bryd ceir gemau yn cael eu darlledu’n fyw ac mae rhai o’n caeau ddim digon da (yn cynnwys Parc waun Dew, Caerfyrddin yn hyn). Mae angen buddsoddiad yn ein caeau

Gosodir cyllideb flynyddol ar gyfer ein timau ac mae archwilio a monitro manwl yn digwydd. Rhaid sicrhau nad oes unrhyw orwario.

Rydym ar hyn o bryd yn ymchwilio i faes creu adran elusennol i’r clwb bydd yn medru denu mwy o grantiau neu fynediad i ffynonellau ychwanegol o gyfalaf. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Sir Gar am y gefnogaeth wrth wneud hyn a hefyd i Glwb Rygbi Llanymddyfri.

Cynllun Strategol 2012

Croesawir y cynllun strategol yn gyffredinol. Nid oes lle amlwg i’r Uwch Gynghrair ond mae amser i roi tipyn o gig ar yr esgyrn yn y dyfodol. Rhaid i’r clybiau gael llais wrth wneud hyn. Gallai hyn arwain ar wneud y Gynghrair i ymddangos yn fwy proffesiynol wrth i bawb gydweithio.

Diolch yn fawr am y cyfle i ymateb i’r Pwyllgor. Barn un clwb yw hwn yn unig ond mae’n farn gwbl onest. Rydym yn falch iawn o fod yn aelodau o Uwch Gynghrair Cymru ac am iddi ffynnu yn y dyfodol Mae Cynghrair Genedlaethol lwyddiannus yn allweddol i ddatblygiad pêl-droed yng Nghymru.

GARETH JONES